Gweithgareddau’r Haf i Blant a Theuluoedd


Gyda gwyliau’r haf yn ei anterth, weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i bethau i blant a theuluoedd eu gwneud. Diolch byth, mae gennym ni rywbeth i chi! P’un a ydych chi’n chwilio am bethau y gall eich plant eu gwneud tra byddwch chi yn y gwaith neu y gall teuluoedd eu gwneud gyda’i gilydd, mae cymaint ar gael gan Gyngor Caerdydd a’i bartneriaid dros y mis nesaf.  

Diwrnod Chwarae Caerdydd 

Mae’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu ledled y DU bob mis Awst, i dynnu sylw at hawl plant i chwarae a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.   Thema’r diwrnod eleni yw diwylliant plentyndod – cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch.  

Wedi’i drefnu gan Wasanaethau Chwarae Plant y Cyngor, bydd llwyth o weithgareddau hwyl awyr agored ar gyfer plant a theuluoedd ym Mharc y Mynydd Bychan ar ddydd Mercher 7 Awst, 1 – 4pm pan fydd amryw o wasanaethau’r cyngor a phartneriaid yn darparu gemau, sesiynau storïau, chwaraeon, celf a chrefft a mwy, i gyd heb unrhyw gost i deuluoedd! Ymunwch yn yr hwyl ar y cae ger y rheilffordd fach yn y parc. 

Sialens Ddarllen yr Haf 

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn weithgaredd gwyliau AM DDIM i blant. Mae’n ymwneud â darllen am hwyl, gyda’r nod o wella sgiliau a hyder plant wrth ddarllen. Cynhelir y Sialens bob blwyddyn drwy gydol gwyliau’r haf, ac mae croeso i bob plentyn 4-11 oed gymryd rhan. 

Mae thema’r Sialens eleni, Crefftwyr Campus, yn ymwneud â chreadigrwydd. O ddawnsio i arlunio, modelu sothach i gerddoriaeth, mae rhywbeth at ddant pawb! Bydd plant yn gallu dod o hyd i lyfrau newydd sy’n gysylltiedig â’u hoff gelfyddydau creadigol, a chael mynediad at weithgareddau am ddim yn y llyfrgell. 

Gallwch gofrestru yn eich llyfrgell leol neu ar-lein yn sialensddarllenyrhaf.org.uk. Dechreuwch heddiw! 

Gweithgareddau a Chlybiau Hybiau 

Fel erioed, mae Hybiau Caerdydd yn cynnal digwyddiadau i blant ac oedolion. P’un a yw’ch plentyn yn hoffi Lego, helfeydd trysor, adrodd straeon, canu neu grefftau, mae rhywbeth i chi ddod i gymryd rhan ynddo. Gwelwch yr amserlen ar gyfer eich hyb lleol yn hybiaucaerdydd.co.uk. Mae gan rai hybiau dudalennau Facebook, X/Twitter ac Instagram hefyd, ac mae diweddariadau cyson ar yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal ar y rheini. 

Dim ond dewis bach yw hwn, ac mae pethau newydd yn cael eu cyhoeddi bob amser. Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i lenwi eich haf â hwyl, creadigrwydd a boddhad, am fwy o wybodaeth, galwch i mewn i’ch hyb lleol a chael sgwrs gydag aelod o’r tîm! 

Share this page