Rhaglen Dysgu am Oes

Awyddus i ddysgu? Rhowch gynnig ar Addysg Oedolion Caerdydd

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i bobl dros 16 oed ledled Caerdydd. Er ein bod yn gweithio o Severn Road, rydyn ni’n gweithredu drwy nifer o Hybiau ym mhob ardal yng Nghaerdydd i sicrhau y gall pawb fanteisio ar gyfleodd i ddysgu.

Mae’r rhaglen Dysgu am Oes yn cynnig dosbarthiadau celf, crefft, coginio, ieithoedd, sgiliau digidol a mwy.

Os ydych chi’n ddi-waith a ddim yn derbyn addysg na hyfforddiant, neu’n 50 oed a hŷn ac yn economaidd anweithgar, neu os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol, mae’n bosibl y bydd modd i chi fanteisio ar ein cyrsiau Dysgu am Oes, sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i gael swydd.

Mae ein rhaglen DICE yn cynnig cyrsiau sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer dysgwyr anabl.

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth