Gwasanaeth Cymorth Lles yn cael ei lansio
Gorffennaf 20, 2021Gwasanaeth Cymorth Lles yn cael ei lansio
Lansiwyd wasanaeth newydd cyffrous, arloesol i gefnogi oedolion sy’n teimlo eu bod wedi’u hallgáu’n gymdeithasol ac i helpu pobl i reoli eu lles personol eu hunain.
Mae Gwasanaeth Cymorth Lles Caerdydd yn fenter newydd sy’n ceisio hybu iechyd a lles cwsmeriaid a lliniaru rhai o effeithiau negyddol pandemig COVID-19.
Bydd y gwasanaeth yn rhan annatod o dîm Hybiau Cymunedol y Cyngor ac yn ategu gwaith swyddogion cynhwysiant cymunedol y tîm sy’n trefnu ac yn annog cyfranogiad yn yr ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau hyb a phartneriaid. Bydd y gwasanaeth yn cynnig mentora tymor byr, un-i-un i’r rhai sydd ei angen, gan eu helpu i gael gafael ar y cymorth cywir sydd ei angen arnynt.
Bydd y tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod ystod eang o ddarpariaeth i helpu cymaint o bobl â phosibl. Bydd cleientiaid yn cael eu cefnogi i gael gafael ar gyngor, gweithgareddau, digwyddiadau, cyfleoedd hyfforddi ac unrhyw ddarpariaeth arall i helpu i ddiwallu eu hanghenion lles. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys clybiau cinio, clybiau cymdeithasol, sesiynau digidol, clybiau garddio, grwpiau canu, casglu sbwriel, ioga, myfyrio, gwirfoddoli, grwpiau coginio iach a llawer mwy, gan helpu pobl i wneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.