Gwasanaethau ar gyfer Tenantiaid y Cyngor
Awst 5, 2021Atgyweiriadau
Mae’r gwasanaeth bellach yn gweithredu’n llawn, gan weithio yn unol â chanllawiau cyfredol COVID-19.
Help a Chyngor
Mae’r hybiau ar agor. Does dim angen trefnu apwyntiad ar gyfer Cyngor Ariannol na’r Gwasanaethau i Mewn i Waith.
Fodd bynnag, mae angen gwneud apwyntiad i bori mewn llyfrgelloedd a defnyddio cyfrifiaduron.
Gall cwsmeriaid ffonio’r llinell gyngor i drefnu apwyntiad neu ofyn am daleb banc bwyd.
Trosglwyddiadau a Chyfnewidiadau
Mae trosglwyddiadau a chyfnewidiadau’n mynd rhagddynt fel arfer.
Taliadau Rhent
Dylai tenantiaid sy’n cael anawsterau gyda thaliadau rhent ar yr adeg anodd hon gysylltu i drafod hyn. Peidiwch â phoeni, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ateb.
Materion yn ymwneud â Thenantiaeth ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae’r gwasanaeth wedi dychwelyd i’r arfer i raddau helaeth. Mae ymweliadau â chartrefi ac ymweliadau ag ardaloedd allanol yn cael eu cynnal tra’n cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol. Gellir cysylltu â staff dros y ffôn a thrwy e-bost i helpu a chynghori tenantiaid.
Glanhau Ardaloedd Cymunedol Fflatiau
Mae’r gwasanaeth bellach yn gweithredu’n llawn, gan weithio yn unol â chanllawiau cyfredol COVID-19.
Cynnwys Tenantiaid
Mae pob cyfarfod sydd wedi ei drefnu gan y Cyngor wedi ei atal dros dro. Argymhellwn yn gryf y dylai pob grŵp ohirio eu cyfarfodydd.
Digartrefedd
Byddwn yn dal i weithio ar ein heiddo gwag ac yn helpu pobl ddigartref i symud allan o lety dros dro a hosteli.