Annual Tenants Conference

Mae Tai Cyngor Caerdydd yn cynnal ei gynhadledd flynyddol i Denantiaid ddydd Gwener 30 Medi 2022.
Thema’r gynhadledd eleni yw Dechrau Newydd. Gyda’r pan demig wedi dod i ben a phethau’n dod yn ôl i drefn, rydym yn chwilio am ffyrdd newydd o gyfathrebu â chi ac rydym yn awyddus i glywed eich barn!
Bydd y gynhadledd yn cynnwys gweithdai difyr ac addysgiadol, stondinau yn cynnig digon o nwyddau am ddim a chyfleoedd i gwrdd â gwahanol adrannau o’r cyngor a gofyn ambell gwestiwn hefyd.
• Byddwn hefyd yn cyhoeddi enillwyr Garddio Gwych, ac yn cyhoeddi categori newydd annisgwyl!
• Bydd cinio bwffe am ddim ar gael a bydd pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn raffl am ddim.
Dyma’ch cyfle i ddod draw a dweud eich barn, helpu i wella gwasanaethau a chwrdd â thenantiaid eraill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r gynhadledd, neu os ydych eisiau ychydig mwy o wybodaeth amdani, neu unrhyw ran o’r gwaith a wnawn, yna cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod – dim ond i chi gadw eich lle, a byddwn yn anfon gwahoddiad unigryw atoch yn syth!
E-bostiwch ni yn cynnwystenantiaid@caerdydd.gov.uk.
Ffoniwch 029 20537511/ 07811291291 / 07891601637 / 07970879239