Dweud eich dweud ar y strategaeth ddrafft

Mae cyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lleisiau dinasyddion wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae’n rhoi cyfle i anghenion a dyheadau cymunedau gael eu clywed ac yn galluogi darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ymateb.
Pwrpas y Strategaeth Cyfranogiad ddrafft hon yw sefydlu perthynas â chymunedau yn seiliedig ar ymddiriedaeth, sefydlu ymrwymiad i wrando ar bob llais a sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed wrth i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol.
Mae’r Strategaeth Cyfranogiad ddrafft yn nodi ein hymrwymiad i gryfhau cyfranogiad ac ymgysylltiad a chyfres o gamau i sicrhau y gellir clywed pob llais yn y ddinas a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i threfniadau cyfranogiad democrataidd presennol.
Mae gan Strategaeth Cyfranogiad Ddrafft Cyngor Caerdydd ddwy adran: rhan un yn canolbwyntio ar ymgynghori ac ymgysylltu i hyrwyddo llais dinasyddion wrth wneud penderfyniadau a rhan dau yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd.