Mae Holi Caerdydd

https://online1.snapsurveys.com/HC2023AC

Mae Holi Caerdydd yn arolwg blynyddol a gynhelir gan Gyngor Caerdydd.  Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a’r rhai sy’n ymweld â’r ddinas i rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus.

Hoffem glywed gan gynifer o bobl â phosib, a wnewch chi annog eich ffrindiau, teulu a chymdogion i gwblhau’r arolwg – pob oedran, pob cefndir ac o bob rhan o’r ddinas.

 

Trwy gymryd tuag 20 munud i gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i:

– ddeall yn well sut mae pobl yn profi’r ddinas a’n gwasanaethau cyhoeddus.
– deall yr hyn sy’n bwysig i chi a’ch cymuned leol.
– gwneud newidiadau a gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ein dinas.

Y llynedd rhannodd bron 5,000 o bobl eu barn gyda ni – sicrhewch y caiff eich llais ei glywed.

 

Gallwch gystadlu yn y Raffl i ennill

– Tocyn teulu i sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf eleni
– 4 tocyn i gêm Devils Caerdydd.
– Un o ddeg Taleb £50 FOR Cardiff, y gellir eu gwario mewn ystod eang o fwytai a siopau’r stryd fawr.

https://online1.snapsurveys.com/HC2023AC