flowering community garden that won in the best community garden category in 2023

Garddio Gwych Wedi Dechrau 2024

Garddio Gwych Wedi Dechrau 2024

Mae’r amser hynny o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto! Gyda’r haul allan a’r haf yma o’r diwedd, mae Tenantiaid Ynghyd newydd lansio ein cystadleuaeth Garddio Gwych ar gyfer 2024! Garddio Gwych yw ein cystadleuaeth arddio flynyddol sy’n agored i holl Denantiaid a Lesddeiliaid Cyngor Caerdydd. Un o’r pethau sydd bob amser yn synnu Tenantiaid Ynghyd yw faint o ymdrech, cariad a gofal y mae preswylwyr y cyngor yn ei roi i’r mannau gwyrdd yn eu cartrefi a’u cymunedau. Garddio Gwych yw eich cyfle i ddangos yr holl waith gwych rydych chi wedi’i wneud ac ennill gwobrau am hyn hefyd. 

Y categorïau y gellir cofrestru ar eu cyfer eleni yw: 

  • Gardd Flaen 
  • Gardd Gefn 
  • Gardd Gyffredin 
  • Gardd Gymunedol 
  • Gwelliant Mwyaf   
  • Gardd Beillwyr 

Mae gan bob categori wobr gyntaf o £50, yn ogystal â’r ail wobr o £20 a thrydedd wobr o £10! Yn ogystal; bydd enillydd cyffredinol y gystadleuaeth yn derbyn gwobr ariannol o £100!  

Os hoffech gymryd rhan, neu gael sgwrs am y gystadleuaeth a dysgu mwy amdani, mae croeso i chi gysylltu â ni naill ai dros y ffôn ar 02920 871 777, ar e-bost yn TenantiaidYnghyd@caerdydd.gov.uk neu drwy’r ffurflen gyswllt ar y wefan hon. Am gymryd rhan yn y gystadleuaeth byddwn yn rhoi 100 Points4u i chi y gallwch eu cyfnewid gyda ni am werth £10 o dalebau siopa. 

Mae’r ceisiadau bellach ar agor, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni a gallwn fynd trwy eich cais gyda chi. Byddwn hefyd yn trefnu amser o’ch dewis i ddod i edrych ar eich gardd. Y dyddiad cau ar gyfer ymweliadau yw 1 Hydref felly mae digon o amser i fwrw iddi! Gallwch hyd yn oed enwebu eich cymydog os dymunwch.