Lles Caerdydd yn Eich Cefnogi
Gorffennaf 5, 2024Gall unigedd cymdeithasol, unigrwydd ac anawsterau emosiynol eraill fod yn broblem wirioneddol i rai. Nod Gwasanaeth Lles a Chymorth Caerdydd yw cynni cyfleoedd i wrthsefyll y rhain a rhoi cefnogaeth i gynifer o bobl â phosibl i fod yn weithgar yn eu cymunedau.
Boed yn cael anawsterau emosiynol neu’n teimlo fel eich bod yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu ag eraill neu’r byd o’ch cwmpas, gallai’r gwasanaeth Lles roi’r help sydd ei angen arnoch. Mae’r tîm yn cynnig mentora un-wrth-un byrdymor â’r nod o’ch helpu i gymryd mwy o ran ac ymgysylltu â’ch cymuned.
Mae’r tîm hefyd yn cynnig gweithgareddau a chlybiau am ddim, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau ac yn darparu ar gyfer gwahanol lefelau o angen. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Clybiau cinio a chymdeithasol
- Sesiynau digidol
- Clybiau garddio
- Sesiynau codi sbwriel
- T’ai Chi
- Boreau/Prynhawniau Coffi
- Grwpiau gemau
- Clybiau crefft
Ar ben hynny, mae digwyddiadau ar raddfa fwy a digwyddiadau ar gyfer anghenion a chymunedau mwy penodol hefyd ar gael. Mae gweithgareddau yn ac wedi cynnwys Bore Coffi misol ar y cyd â Pride Cymru ar ddydd Llun cyntaf pob mis yn y Llyfrgell Ganolog rhwng 10:30-12:00, dathliadau Eid-Al-Adha a ddigwyddodd ar Fehefin 22 neu’r Diwrnod Lles ar 21 Mehefin. Mae llawer yn digwydd bob mis, a gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol y tîm isod neu drwy gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol i gael sgwrs.
Mae’r tîm lles hefyd yn awyddus i recriwtio tîm o wirfoddolwyr sy’n frwd dros ddarparu cyfeillgarwch a chymorth lefel isel i Ofalwyr Di-dâl ledled Caerdydd. Allech chi helpu? Gallwch gymryd rhan drwy gysylltu â Bethan Francis yn CarersBefriending@caerdydd.gov.uk neu gael mwy o wybodaeth ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd https://www.volunteercardiff.co.uk/gwirfoddolwr-cyfeillio-i-ofalwyr-di-dal/?lang=cy.
E-bost: timlles@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 1071 Opsiwn 3 (gadewch neges i ni a byddwn yn eich ffonio’n ôl)
Gallwch ein dilyn hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol:
Lles Caerdydd / Cardiff Wellbeing (@Car_Wellbeing) / X (twitter.com)
Cymorth Lles Caerdydd (@cardiff.wellbeing) • Lluniau a fideos Instagram