Carwch Eich Cartref yn Hyrwyddo Balchder yn Dinasyddion Caerdydd


Mae ymgyrch Carwch Eich Cartref Cyngor Caerdydd yn ymrwymo i gadw strydoedd ac ardaloedd cymunedol y ddinas yn lân a meithrin ymdeimlad o gariad a gofal am y lle rydym yn byw. Gallwch ymuno â grŵp sy’n casglu sbwriel, gwneud tipyn bach o arddio dinesig, neu roi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon – mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r lle rydych chi’n byw.  Mae Carwch Eich Cartref yn seiliedig ar y pum prif egwyddor canlynol.

Ymgyrchoedd Rheolaidd

Mae’r tîm yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd, fel: Sgubo’r Stryd yn yr Hydref/Gaeaf lle mae aelodau o’r gymuned yn dod at ei gilydd i sgubo dail sydd wedi cwympo, Gadewch ond Olion Pawennau sy’n ffordd gyfeillgar heb wrthdaro o newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â baw cŵn a’r ymgyrch Carwch Eich Parciau sy’n trefnu digwyddiadau casglu sbwriel yn yr haf mewn parciau lleol. Mae sawl ffordd o gymryd rhan, boed yn unigolion neu’n deuluoedd gyda phlant! Mae’r ymgyrchoedd presennol i’w gweld ar wefan Cadwch Gaerdydd yn Daclus.

Ymgyrchwyr Sbwriel

A oes gennych chi ddiddordeb yn helpu eich cymuned leol a helpu i godi sbwriel oddi ar strydoedd Caerdydd? Yna beth am ddod yn Ymgyrchydd Sbwriel? Os byddwch yn cofrestru fel Ymgyrchydd Sbwriel, yna gallwch fenthyg offer codi sbwriel a bagiau pinc o’ch hyb a/neu lyfrgell leol. Rydyn ni’n ei gwneud hi’n syml i fod yn rhan o’r byd gwerth chweil o godi sbwriel! Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion grwpiau casglu sbwriel yn https://www.keepcardifftidy.com/community/

Polisi Sbwriel Dim Goddefgarwch

Bydd hysbysebu ledled y ddinas yn atgoffa pobl sy’n taflu sbwriel o’r dirwyon y gallant eu hwynebu os bydd swyddogion gorfodi yn eu gweld yn taflu sbwriel. Gall swyddogion gorfodi gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig o £100 am daflu sbwriel hyd at ddirwy ddiderfyn wedi ei gosod gan y llys am dipio anghyfreithlon. Mae nifer o dimau gorfodi yn gweithredu yn y ddinas ac mae tîm ychwanegol bellach yn gweithredu yn ardaloedd myfyrwyr y ddinas. Mae Swyddogion Gorfodi nid yn unig yn canolbwyntio ar eiddo preswyl neu fusnes nad ydynt yn cyflwyno eu gwastraff yn gywir wrth ymyl y ffordd. Byddant hefyd yn gorfodi yn erbyn y rhai sy’n storio gwastraff yn anghyfreithlon ym mlaen eiddo a chwmnïau neu unigolion sy’n rhoi sgipiau ar y briffordd neu ar dir y cyngor heb y caniatâd cywir.

Codi ymwybyddiaeth o ailgylchu

Mae gwneud eich rhan i ailgylchu a chompostio yn hanfodol i’r ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu heriol, sy’n uwch na’r targedau a osodwyd yn Lloegr. Mae angen i’r ddinas ailgylchu a chompostio 70% o’i gwastraff erbyn 2025. Dymuna Carwch eich Cartref ddiolch i bawb sy’n gweithio gyda’r tîm trwy wahanu eu gwastraff i’w ailgylchu. Gallai pob awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cosbi’n ariannol os na chyflawnir y targedau hyn. Gallai hyn fod mor uchel â £400,000 am bob canran a gollir o’r targedau hyn. Mae er budd y trethdalwr i bawb chwarae eu rhan ac ailgylchu a chompostio cymaint o’u gwastraff â phosibl.

Rhaglenni Addysgol

Mae tîm Carwch eich Cartref yn cynnig ymweld â phob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yng Nghaerdydd. Gallant fynd â phlant i gasglu sbwriel yn lleol, neu ddod i mewn i wasanaeth yr ysgol neu’r ystafell ddosbarth i siarad am faterion sbwriel a thipio anghyfreithlon.

Mae’r tîm hefyd yn cynnal y cynllun bathodyn Carwch eich Cartref ar gyfer aelodau’r Sgowtiaid a’r Geidiaid, am ddim ar gyfer pob uned yng Nghaerdydd.

Mae cymaint o ffyrdd i gymryd rhan gyda’r tîm, helpu i ddangos rhywfaint o gariad tuag at eich ardal leol a’i chadw’n lân ac yn hardd. Os ydych chi am ddechrau grŵp casglu sbwriel ar gyfer tenantiaid y cyngor neu gael eich grŵp tai i gymryd rhan, mae hynny’n sicr yn bosibl! Am fwy o wybodaeth neu i siarad am sut y gallwch gymryd rhan, ffoniwch y tîm ar 029 2071 7564 neu e-bostiwch carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk

 

Rhannwch y dudalen hon