Enw newydd i’r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid!


Tenants attending a damp and mildew focus group with the dry homes team

Diolch i’ch adborth mae’r tîm yn ail-frandio a’i enw newydd fydd ‘Tenantiaid Ynghyd’. Mae’r enw newydd yn cynrychioli ein nod o gefnogi tenantiaid i ymgysylltu â gwasanaethau’r Cyngor a’u cymunedau.

tenants together logo

Oes diddordeb gennych mewn cyfrannu at eich cymuned?

Rydym yn gweithio i denantiaid a lesddeiliaid Cyngor Caerdydd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u helpu i ymwneud â’u cymdogion a gwasanaethau Cyngor Caerdydd.

Rydym yn cynnal  arolygon, grwpiau ffocws, boreau coffi, gweithgareddau, digwyddiadau tymhorol, gweithgareddau i’r teulu, tripiau a sesiynau digidol drwy gydol y flwyddyn i helpu i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid Cyngor Caerdydd yn cael dweud eu dweud ar sut mae Gwasanaethau Tai Cyngor Caerdydd yn cael eu rhedeg. Gallech ddod yn Bencampwr Tenantiaid a chefnogi’r cyngor i wneud penderfyniadau, ymunwch â’n Panel Tenantiaid Ifanc i ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi, neu os na allwch ddod wyneb yn wyneb, gallwch ymuno â sesiwn galw heibio ddigidol.

Mae eich barn yn hanfodol i’n helpu i wella’r gwasanaeth. Rydym yn cynnig grantiau i gynnal digwyddiadau yn eich cymuned fel partïon stryd a digwyddiadau fel y Jiwbilî neu gallwn roi cyngor ar sut i ddechrau clwb, gweithgaredd neu fore coffi. Drwy gymryd rhan, gallwch ennill talebau Points4You y gellir eu hamnewid am dalebau siopa a gemau.

Gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brosiectau diweddaraf tai Cyngor Caerdydd yn ogystal â rhoi cyngor i chi ar sut i sicrhau bod eich gerddi yn edrych yn wych gyda’n gweithdai basgedi crog neu ein cystadleuaeth garddio gwych.

Mae gan Garddio Gwych wobrau ariannol a chategorïau gan gynnwys gardd flaen a chefn. Beth am roi cynnig arni? Ffoniwch y rhif isod neu anfonwch e-bost atom i ofyn am ffurflen gais. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 1 Hydref 2024.

Yn ogystal â hyn, rydym yn wych wrth gynnig cyngor ar dai Cyngor Caerdydd a gallwn hefyd eich cyfeirio at ddigwyddiadau eraill yn ein Hybiau’r ddinas a’n Gwasanaeth Iechyd a Lles.

Os hoffech gael eich cynnwys ar ein rhestr bostio a chymryd rhan o hyn ymlaen, cysylltwch â ni:

Ffôn: 029 2087 1777 e-bost: TenantiaidYnghyd@caerdydd.gov.uk

two woman gardening in HETRA community garden tenants sat around tables at tenants voice as waste management explain the new recycling concepts

Rhannwch y dudalen hon