Gallwch ein helpu i wella Diogelwch mewn Blociau Fflatiau Uchel ac Isel


garden where

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddiogelwch yr holl breswylwyr. Rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau y cedwir y llwybrau dianc mewn argyfwng a’r ardaloedd cymunedol yn glir rhag pob rhwystr ac eitemau fflamadwy ym mlociau fflatiau uchel ac isel y ddinas. Mae angen i ni sicrhau, os bydd argyfwng, y gall preswylwyr adael yr adeilad os bydd angen, ac y gall y gwasanaethau brys fynd i mewn i’r adeilad yn ddiogel.

Er mwyn helpu gyda’r gwaith hwn, mae Cyngor Caerdydd wedi parhau i roi gwybod i breswylwyr nad yw’n briodol er budd iechyd a diogelwch i eitemau personol gael eu gadael yn yr ardaloedd cymunedol. Dylid storio eitemau naill ai yn eich fflat, eich sied, eich garej neu eich ardal barcio.

Mae beiciau, mopedau, sgwteri, bygis, matiau drws, dillad, planhigion, ymysg eitemau eraill a gaiff eu gadael neu eu storio mewn ardaloedd cymunedol yn achosi rhwystr ac nid oes gan Gyngor Caerdydd unrhyw opsiwn ond dechrau symud eitemau os bydd preswylwyr yn parhau i’w gadael yn yr ardaloedd cymunedol.

Mae Cyngor Caerdydd yn deall efallai y gwelir hyn fel anghyfleustra, ond mae’n rhaid i ddiogelwch preswylwyr ac ymwelwyr a’r gwasanaethau brys fod yn flaenoriaeth i bawb.

Rydym yn gofyn i chi ein helpu i’ch cadw mor ddiogel â phosibl trwy gadw pob ardal gymunedol yn glir rhag eitemau personol bob amser.

Os yw o werth i chi, peidiwch â’i adael allan.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os ydych am drafod storio, cysylltwch â’r tîm Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501.

Rhannwch y dudalen hon