Y DIWEDDARAF AR GŴN XL BULLY
Hydref 17, 2024Daeth y gwaharddiad ar gŵn XL Bully, a gyflwynwyd y llynedd, i rym ar 1 Chwefror 2024.
Rhaid i berchnogion ci XL Bully sy’n dymuno cadw eu ci a chydymffurfio â’r Ddeddf Cŵn Peryglus fod wedi:
- Gwneud cais am dystysgrif eithrio – dylai hyn fod wedi cael ei wneud erbyn 1 Chwefror 2024 gan fod y broses ymgeisio bellach wedi cau.
- Cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti.
- Ysbaddu eu ci XL Bully. Yn dibynnu ar oedran y ci, rhaid bod hyn wedi’i wneud erbyn 30 Mehefin neu 31 Rhagfyr 2024 a rhaid bod prawf o hyn wedi’i roi i Defra. Nid yw’r dystysgrif eithrio yn ddilys os nad yw’r ci wedi’i ysbaddu.
- Microsglodynnu’r ci XL Bully a darparu’r wybodaeth hon i Defra erbyn 31 Mawrth 2024. Os nad oedd y ci XL Bully yn ffit i gael ei ficrosglodynnu ar adeg y cais, rhaid cyflwyno tystysgrif filfeddygol sy’n nodi hyn i Defra erbyn 31 Mawrth 2024. Yna rhaid i’r ci XL Bully gael ei ficrosglodynnu, a rhaid rhoi’r rhif i Defra o fewn 28 diwrnod i ddyddiad dod i ben y dystysgrif filfeddygol. Bydd tystysgrif eithrio newydd yn cael ei rhoi gan Defra gyda rhif y microsglodyn.
- Rhaid i chi roi copi o’r dystysgrif eithrio i’r Tîm Tenantiaeth.
- Gallai methu â gwneud cais am dystysgrif eithrio arwain at orfod ailgartrefu eich ci.
O 31 Rhagfyr 2023 mae’n drosedd:
- Peidio â chadw ci XL Bully ar dennyn ac wedi’i fwselu pan yn gyhoeddus.
- Ailgartrefu, prynu, gwerthu, neu fridio ci XL Bully, trosglwyddo perchenogaeth o gi XL Bully neu ganiatáu i gi XL Bully grwydro.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU – Ban on XL Bully dogs (www.gov.uk)