Mae diogelwch tân yn parhau’n flaenoriaeth uchel


picture of fire crew and their supplies outside block of flats in cardiff

Mae hyfforddiant blociau fflatiau uchel a digwyddiadau ymgyfarwyddo yn parhau i gael eu trefnu gan Dîm Cydymffurfiaeth y Cyngor a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC). Mae’r Tîm Cydymffurfiaeth wedi hwyluso hyfforddiant ar gyfer GTADC ym mloc fflatiau uchel Tŷ Beech yn yr Eglwys Newydd.

MaeCyngor Caerdydd yn gweithio’n agos gyda GTADC i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch tân ac i helpu GTADC i ymgyfarwyddo â’i adeiladau. Roedd y tîm cydymffurfiaeth yn gallu cyflenwi fflat gwag y gwnaeth GTADC ei lenwi â mwg synthetig. Cafodd dau ddymi eu rhoi yn y fflat a gafodd eu hachub wedyn gan y gwahanol griwiau ar y safle. Cafodd y bibell godi sych ei llenwi â dŵr a gwisgodd y criwiau offer anadlu i efelychu sefyllfa mor real â phosibl.

Ymwelwyd hefyd â Thŷ Sycamore yn yr Eglwys Newydd a Thŷ Loudoun a Thŷ Nelson ym Mae Caerdydd. Mae GTADC yn gwerthfawrogi’r gallu i wneud hyfforddiant ar flociau fflatiau uchel a dywedodd fod gallu efelychu tân ffug, rhedeg trwy’r ymarfer a rhoi adborth ar yr hyn a gafodd ei wneud yn fuddiol iawn iddo.

Rhannwch y dudalen hon