RHYBUDD DIOGELWCH!
Hydref 28, 2024Er bod manteision i ddefnyddio beiciau a sgwteri trydan gan gynnwys lleihau carbon a chynyddu gweithgarwch hamdden, mae’r Gwasanaeth Tân Cenedlaethol wedi mynegi rhai pryderon ynghylch gwefru cerbydau trydan dan do.
Yr awgrymiadau diogelwch i bob defnyddiwr e-feic/sgwter eu dilyn yw:
• Peidiwch byth â rhwystro eich llwybr dianc gydag unrhyw beth, gan gynnwys e-feiciau ac e-sgwteri.
• Storiwch nhw yn rhywle i ffwrdd o brif lwybr trwodd. Y cyngor yw storio’r eitemau hyn mewn lleoliad diogel os yn bosibl, fel garej neu sied.
• Peidiwch â cheisio addasu neu ymyrryd â’ch batri. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser.
• Gall trosi beiciau pedal yn e-feiciau gan ddefnyddio pecynnau cartref a brynwyd ar-lein fod yn beryglus iawn. Maent yn achosi risg uwch o dân. • Gwiriwch fod eich batri a’ch gwefrydd yn bodloni safonau diogelwch y DU.
• Cadwch lygad am arwyddion nad yw’r batri neu’r gwefrydd yn gweithio fel y dylai – os yw’n boeth wrth gyffwrdd ag ef neu os yw wedi newid siâp.
• Defnyddiwch y gwefrydd cywir bob amser a phrynu un swyddogol gan werthwr ag enw da.
• Mae pryderon penodol lle mae batris nad ydynt o bosibl yn bodloni’r safonau diogelwch cywir wedi’u prynu o farchnadoedd ar-lein ac ar y rhyngrwyd.
• Gadewch i’r batri oeri cyn ei wefru.
• Gall batris gynhesu wrth iddynt gael eu defnyddio ac fe’ch cynghorir i’w galluogi i oeri cyn ceisio eu hail-wefru gan y gallent fod yn fwy agored i fethiant.
• Datgysylltwch eich gwefrydd ar ôl i chi orffen gwefru.
• Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser wrth wefru ac fe’ch cynghorir i beidio â gadael y batri’n gwefru heb oruchwyliaeth neu tra bod pobl yn cysgu.
• Gosodwch larymau lle rydych chi’n gwefru. Sicrhewch fod larymau mwg wedi’u gosod mewn ardaloedd lle mae e-feiciau neu e-sgwteri yn cael eu gwefru a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu profi’n rheolaidd.