Ehangu Gwirfoddoli
Hydref 29, 2024Rydym wedi ehangu ein rhaglen yn ddiweddar i gynnwys gwirfoddoli cymunedol. Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn eich cymuned a rhoi rhywbeth yn ôl. P’un a yw hynny’n helpu i gefnogi grŵp neu weithgaredd sy’n bodoli eisoes, dechrau rhywbeth newydd, neu gael sgiliau ar gyfer gwaith, rydym yma i gefnogi eich taith wirfoddoli bob cam o’r ffordd.
Mae llawer o fanteision i wirfoddoli gan gynnwys;
• Da i’ch lles
• Cwrdd â phobl newydd
• Gwella eich cymuned
• Helpu pobl eraill
• Dysgu rhywbeth newydd
• Magu hyder
• Ennill profiad gwaith
• Gwella eich CV
Os byddwch yn gwirfoddoli gyda ni, byddwn yn rhoi hyfforddiant llawn, cymorth gan Fentoriaid Gwirfoddoli, iwnifform a threuliau teithio. Gallwn hefyd weithredu fel canolwr ar gyfer ceisiadau am swyddi y gallech eu gwneud. Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyfleoedd gwirfoddoli, ewch i www. volunteercardiff.co.uk/?lang=cy neu anfonwch e-bost atom yn gwirfoddolicaerdydd@caerdydd.gov. uk, gallwch hefyd ofyn am wirfoddoli yn eich Hyb lleol