GOFALWYR DI-DÂL

Ydych chi’n gofalu am berthynas neu ffrind drwy ei helpu gyda’i weithgareddau a’i anghenion bob dydd? Rydym yn gwybod eich bod yn gwneud gwaith anhygoel ac rydym eisiau rhoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol i chi i’ch helpu.

Mae Newyddion Dinas Gofal yn gylchlythyr chwarterol sy’n cynnwys newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol i wneud eich bywyd yn haws. Mae’r cylchlythyr ar gael drwy e-bost neu mae copïau papur ar gael o hybiau cymunedol, meddygfeydd a lleoliadau cymunedol eraill ledled Caerdydd.

Os hoffech gael eich cynnwys ar restr bostio’r cylchlythyr, cysylltwch â dinasgofal@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 3419 a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y rhifynnau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Rydym yn datblygu tudalennau pwrpasol ar gyfer cyngor i ofalwyr didal ar wefan Caerdydd Sy’n Dda i Bobl Hŷn i roi opsiwn arall i chi gael gafael ar wybodaeth a chyngor. Ewch i https://agefriendlycardiff.co.uk/?lang=cy i gael gwybod mwy.

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth:
facebook.com/DinasGofalCareDiff/ or @CareDiffTweets

Os oes angen mwy o gymorth arnoch ac yn gofalu am blentyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor i Deuluoedd ar 0300 133 133 neu os ydych yn gofalu am oedolyn cysylltwch â’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol ar 02920 234 234.