
Grant Prosiect Arbennig
Chwefror 11, 2025✨ Mae ein Grant Prosiect Arbennig untro o hyd at £1000 yn helpu i gefnogi grwpiau cymunedol drwy ariannu prosiectau sydd o fudd i’r ardal leol. 🌏
💡 Mae’r grantiau hyn yn helpu i droi eich syniadau creadigol yn realiti, meithrin cysylltiadau cymunedol a’ch helpu i greu atgofion llawn hwyl gyda’ch cymdogion. 💡
🌳 Mae ar gael i grwpiau cymunedol lle mae’r rhan fwyaf o’r aelodau’n denantiaid y Cyngor neu’n lesddeiliaid. Os nad ydych yn grŵp eto. Mae gennym gyngor arbenigol a gallwn eich helpu i ffurfio grŵp cyfansoddiadol am ddim. 🥪
✍️ Mae prosiectau llwyddiannus yn cynnwys gardd gymunedol a drawsnewidiodd lain o dir nas defnyddiwyd yn ofod i’r gymdogaeth leol ei mwynhau, diwrnod llawn hwyl a ddaeth â thrigolion ynghyd ar gyfer gweithgareddau, gemau a bwyd, yn ogystal â digwyddiadau cymunedol fel partïon Nadolig i blant a hyd yn oed dosbarthiadau crefftio i oedolion neu glybiau gwaith y cartref.
Mae gwneud cais am grant yn syml: Cysylltwch â ni am ffurflen gais a thelerau ac amodau heddiw!
📞 ✉️ Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy 029 2087 1777 neu e-bostio TenantiaidYnghyd@caerdydd.gov.uk.