Garddio Gwych 2025

🌻Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad cystadleuaeth Garddio Gwych eleni, sy’n agored i holl denantiaid a lesddeiliaid y Cyngor ledled Caerdydd. 🌻

Dyma gyfle gwych i arddangos eich sgiliau garddio a dangos i ni sut rydych chi’n gofalu am eich mannau gwyrdd. Mae yna hyd yn oed wobrau ariannol i’r enillydd! 🎉

🌳 Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys pum categori: gardd flaen, gardd gefn, gardd gymunedol, gardd gymunol, a’r ardd sydd wedi gwella fwyaf. P’un a oes gennych ddarn bach gwyrdd neu fan cymunol mawr, mae categori i bawb gymryd rhan ynddo.

Cysylltwch â’r tîm gyda’r adeg o’r flwyddyn yr hoffech i ni ddod allan i feirniadu. Mae’r ceisiadau ar agor tan 1 Hydref 2025! 📅

Er mwyn ei wneud hyd yn oed yn fwy deniadol, rydym yn cynnig cerdyn rhodd o £10 am gofrestru! Dyma ein ffordd o ddweud diolch am eich ymdrechion i wneud ein cymuned yn lle mwy bywiog a hardd i fyw.🏡

Felly, gafaelwch yn eich offer garddio a byddwch yn barod i wneud argraff! Ni allwn aros i weld y gerddi anhygoel rydych chi’n eu creu. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â ni trwy 029 2087 1777 neu e-bostio TenantiaidYnghyd@caerdydd.gov.uk. 📞 ✉️

🌸Garddio hapus!🌸