Ymunwch â ni

Mae cynnwys tenantiaid yn bwysig iawn i ni yn y tîm Cynnwys Tenantiaid. Rydyn ni am i’n tenantiaid ddylanwadu ar y ffordd y mae eu cartrefi’n cael eu rheoli a dewis i ba raddau maen nhw am fod yn rhan o hyn.

Boed yn dymuno cael mwy o fewnbwn i faterion tai sy’n effeithio’r ddinas gyfan ar lefel strategol neu’n dymuno bod yn rhan o grŵp tenantiaid lleol i ganolbwyntio ar faterion eich ardal benodol i chi, mae croeso i chi!

Os nad ydych yn or-hoff o gyfarfodydd, mae llawer o ffyrdd gwahanol o fod yn rhan o bethau, fel unigolyn neu fel rhan o gynulleidfa digwyddiad, mae croeso mawr i’ch adborth.

Os ydych am fod yn fwy o ran o’ch cymuned, ym mha ffordd bynnag, mae modd i chi ddweud eich dweud.

Digwyddiadau

Yn anffodus, nid oes unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill.

Beth mae’r gymuned yn ei ddweud

Rydym yn benderfynol o ddarparu gwasanaeth cwsmer gwych i’n holl breswylwyr ac rydym wir yn gwerthfawrogi pob gair o glod a phob awgrym sy’n dod i law. Rydym yn neilltuo amser i ddarllen adborth a’i ddefnyddio i wella’n gwasanaethau i’n preswylwyr.

Image of thumbs up
Pam - Llaneirwg

"Roedd y bore coffi’n wych. Roedd yn rheswm dros adael y tŷ ac yn gyfle i gwrdd â phobl newydd. Roedd yn braf iawn cwrdd â ffrindiau newydd.”

Image of thumbs up
Nadia – Sblot

"Roedd yn ddifyr iawn gweld holl ddatblygiadau newydd y ddinas, diwrnod mas penigamp.”

Oriel Luniau

Mae detholiad o luniau o’n digwyddiadau ar gyfer tenantiaid isod

Garddio Gwych 2018

Mae Garddio Gwych yn ystadleuaeth sydd ar agor i holl denantiad a lesddeiliad Cyngor Caerdydd.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi ardd wych rydyn ni’n awyddus i glywed gennych!

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr AM DDIM

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr e-bost am ddim

Vector image of houses