Rydyn ni yma i helpu
Mae nifer o gyfleoedd i gael cyllid i helpu preswylwyr i ailhyfforddi er mwyn chwilio am y swydd ddelfrydol neu drefnu digwyddiadau i wella’u cymuned.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau isod, cysylltwch â’ch tîm Cynnwys Tenantiaid lleol fydd yn hapus i’ch helpu.
Grantiau Project Arbennig
Rydym yn cynnig grantiau project arbennig gwerth hyd at £1000 i grwpiau ymroddedig o denantiaid a phreswylwyr gynnal digwyddiadau i wella’u cymuned.
Er enghraifft:
- Creu grŵp garddio cymunedol
- Cynnal digwyddiadau yn eu hardal leol, yn cynnwys gweithdai ailgylchu, partïon stryd a chiniawau cymunedol.
- Trefnu a chynnal grŵp Llesiant yn eu hardal leol.
- Gwellau mannau cymunedol eu hardal.
Pasbort i waith
Os ydych chi wedi gweld cwrs yr hoffech ei ddilyn, gallwn ni eich helpu!
Mae’r tîm Cynnwys Tenantiaid yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaethau i Mewn i Waith i helpu tenantiaid i ddod o hyd i waith parhaol.
Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau hyfforddiant amrywiol wedi eu nodi gan y Gwasanaethau i Mewn i Waith i ddangos eich bod wedi llwyr ymroi.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth
Gweithiwch gyda ni – ac ennill gwobrau.
I ddiolch i chi am fod yn rhan o’n gweithgareddau, mae cyfle i chi gasglu talebau y gallwch eu defnyddio i siopa.
Mae modd ennill pwyntiau drwy fynychu grwpiau darllen, cystadlu yn Garddio Gwych, creu gardd gymunedol, ymuno â grŵp cymunedol a llawer iawn mwy.