Bob blwyddyn byddwn yn gwneud arolwg i fesur sut rydym yn eich gwasanaethu chi, y cwsmer, ac i nodi lefelau boddhad yn ogystal â’ch barn fel tenantiaid ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd.

Mae’r arolwg yn ymwneud â chwestiynau sy’n perthyn i foddhad tenantiaid â gwasanaethau tai, llety, yr ardal leol, atgyweiriadau a gwybodaeth gefndir megis maint yr aelwyd, oedran, incwm, hyd y denantiaeth ayyb.

Mae’n bwysig derbyn eich ymatebion gan eu bod yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni ar gyfer cynllunio yn y dyfodol ac yn helpu Cyngor Caerdydd i wneud gwelliannau i’ch gwasanaethau a gynigoch chi!

At ei gilydd, mae tenantiaid wedi nodi eu bod yn fodlon ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor fel Landlord.

Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o wneud rhagor o welliannau a, thrwy adael i ni wybod sut rydych yn teimlo am y gwasanaethau rydym yn eu darparu, gallwch ein helpu i gyflawni hyn.

A young male learning about gardening at a tenant event
Photo of a young boy trying gardening at a participation event

Lawrlwytho canlyniadau’r gorffennol